'Cyfle mawr' i ddefnyddio'r Gymraeg i groesawu ffoaduriaid
Mae 'na "gyfle mawr" i ddefnyddio'r iaith Gymraeg i helpu ceiswyr lloches sydd am integreiddio yng Nghymru.
Dyna farn Joseff Gnagbo a ddaeth i Gymru fel ffoadur yn 2018, ac sydd bellach yng nghanol ei ail dymor fel Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith ac yn athro Cymraeg i geiswyr lloches.
Mae 'na alw am fwy o gefnogaeth i ddysgu Cymraeg i geiswyr lloches fel rhan o ymgais Cymru i fod yn 'Wlad Noddfa'.
Mae Mr Gnagbo yn awyddus i weld Llywodraeth Cymru yn cynnig "polisïau mwy cadarn" i alluogi mwy o bobl i ddysgu'r iaith.
"Does dim digon o wybodaeth i geiswyr lloches am y Gymraeg a’r defnydd o’r iaith. Ar y foment mae 'na feddylfryd cyffredinol mewn nifer o sectorau yn dweud bod y Gymraeg yn rhy anodd i geiswyr lloches i ddysgu," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn cefnogi’r Ganolfan Dysgu Cymraeg i gyflwyno’r Gymraeg i bobl sy’n newydd i Gymru gan gynnwys gwersi am ddim i ffoaduriaid a cheiswyr lloches."