Y Coridor Ansicrwydd: 'Llinyn fesur' i Bellamy yn Nhwrci

Mi fydd gêm Cymru oddi cartref yn erbyn Twrci ddydd Sadwrn yn brawf clir o ddatblygiad y tîm o dan Craig Bellamy, yn ôl Owain Tudur Jones.

Tydy Cymru heb golli ym mhedair gêm Bellamy wrth y llyw, sy'n golygu bod gorffen ar frig eu grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd dal o fewn cyrraedd gyda dwy gêm o'r ymgyrch yn weddill.

Mae Bellamy wedi ei ganmol am berfformiadau ac arddull chwarae Cymru, ond mae Jones yn credu mai'r gêm yn Kayseri - yn erbyn tîm sydd ar frîg y grŵp a thri safle yn uwch ar restr detholion FIFA - fydd yr her anoddaf eto.

"Dwi'n meddwl, yn ei bumed gêm, fydd Bellamy yn gyffrous i weld datblygiad y tîm i weld os ydan ni'n gallu bod yr un mor ddewr [o ran meddiant] oddi cartref," dywedodd cyn-chwaraewr canol cae Cymru ar bennod ddiweddaraf podlediad Y Coridor Ansicrwydd.

"Mae hi'n gaddo i fod yn dipyn o brawf."

Ategodd Malcolm Allen: "Mi fydd o'n llinyn fesur i weld lle da ni arni go iawn."

Gwrandewch ar y bennod yn llawn ar BBC Sounds.