Gofal diwedd oes gartref yn gyfle i 'hel atgofion a chael sgyrsiau mawr'
Mae teulu un o sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cefnogi galwadau i'w gwneud yn haws i gleifion dderbyn gofal diwedd oes yn y cartref.
Yn ôl elusen Marie Curie yng Nghymru, mae bron i 20% o welyau ysbytai Cymru yn cael eu defnyddio gan bobl sydd yn eu 12 mis olaf o fywyd.
Roedd yr athro Gareth Miles yn un oedd eisiau marw adref yng nghwmni ei deulu.
"Pan oedden ni'n sylweddoli mai ychydig o amser oedd ganddo fe ar ôl, mi 'naethon ni ofyn iddo fe gael dod adref," meddai ei ferch, Eiry Miles.
Mae ei deulu bellach yn cefnogi elusen Marie Curie wrth iddyn nhw alw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan bawb fynediad at y fath o ofal lliniarol y maen nhw'n dymuno ei gael.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod mwy na £16m yn cael ei wario ar ofal diwedd oes yn flynyddol i sicrhau bod cleifion yn cael gofal o'r ansawdd orau.