Dydd Gŵyl Dewi: Côr Meibion y Barri yn canu Sosban Fach

Fe gafodd staff swyddfa'r BBC yng Nghaerdydd modd i fyw fore Gwener wrth i Gôr Meibion y Barri eu diddanu i nodi Dydd Gŵyl Dewi.

Fe wnaeth y côr berfformio casgliad o ganeuon yn fyw o'r atriwm ar gyfer rhaglen Bore Cothi ddydd Gwener.

Bydd 'na ddathliadau ar hyd a lled Cymru dros y penwythnos i nodi Dydd Gŵyl Dewi.

Dyma eu perfformiad o Sosban Fach.