Trafodaethau cytundebau merched Cymru yn llusgo ers misoedd

Mae prif hyfforddwr tîm rygbi merched Cymru yn mynnu nad yw trafodaethau ynglŷn â chytundebau chwaraewyr wedi cael unrhyw effaith ar y tîm mae o wedi ei ddewis ar gyfer gêm gyfeillgar yn erbyn Yr Alban.

Mae'r capten Hannah Jones, Carys Phillips, Alex Callender, Abbie Fleming a Georgia Evans ymhlith nifer o chwaraewyr blaenllaw sydd heb eu cynnwys yn y garfan ar gyfer y gêm nos Wener yng Nghaeredin.

Mae BBC Cymru yn deall bod trafodaethau ynglŷn â chytundebau rhwng y chwaraewyr ag Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi bod yn llusgo ers sawl mis.

Ond dywedodd Ioan Cunningham ei fod yn awyddus i roi cyfle i chwaraewyr ifanc ar y lefel uchaf er mwyn iddyn nhw gael profiad o rygbi rhyngwladol cyn Cwpan y Byd y flwyddyn nesaf.