Gwirfoddolwyr yn achub dolffin ifanc yng Ngheredigion
Cafodd dolffin ifanc ei achub rhag mynd yn sownd ar draeth ym Mae Ceredigion dros y penwythnos, diolch i dîm ar un o gychod teithiau gwylio dolffiniaid yr ardal a chriw bychan o wirfoddolwyr.
Roedd y tîm wedi sylwi ar ddau ddolffin morhychod (common dolphin) yn agos at y lan fore Sadwrn, ac roedd y llo ifanc yn ymddangos yn sâl.
Mae fideo a rannwyd ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos y llo yn nofio yn y dyfroedd bas, ac roedd wedi cael ei wahanu oddi wrth ei fam.
Neidiodd gwirfoddolwyr i'r dŵr, yn eu dillad, mewn ymgais i gael y dolffin i nofio allan i ddyfroedd dyfnach.
Fe gafodd y dolffin yna ei lapio mewn blancedi a'i roi ar gwch cyn ei ail-ryddhau i'r môr.
Mae'r cwmni wedi dweud nad yw'r llo wedi cael ei weld ers hynny, ac maen nhw'n gobeithio bod "dim newyddion yn newyddion da".
Mae Bae Ceredigion yn Ardal Cadwraeth Arbennig ar gyfer dolffiniaid trwynbwl, ond dydy gweld dolffiniaid morhychod yma ddim mor gyffredin.