Gyrrwr lori bron â tharo pobl ar ochr yr A55 yng Ngwynedd

Mae fideo wedi cael ei ryddhau yn dangos gyrrwr lori yn taro car llonydd ar yr A55 yng Ngwynedd tra'n edrych ar ei ffôn symudol.

Roedd Raymond Catterall, 44, yn edrych i lawr ar ei ffôn cyn taro car oedd wedi torri lawr a gwyro oddi ar y ffordd yn Nhal-y-bont.

Bu bron iddo daro tri o bobl a chi, oedd yn sefyll ar y gwair ar ochr y ffordd.

Plediodd Catterall yn euog ym mis Awst i yrru'n beryglus a defnyddio ffôn symudol tra'n gyrru.

Cafodd ddedfryd o wyth mis o garchar wedi'i ohirio, 150 awr o waith di-dâl, cyrffyw o dri mis a gwaharddiad rhag gyrru am 12 mis yn Llys y Goron Caernarfon.