Dedfrydu gyrrwr lori am daro cerddwr gyda'i gerbyd

Mae gyrrwr lori o ogledd Cymru wedi'i ddedfrydu ar ôl taro cerddwr gyda'i gerbyd.

Roedd Glen Brady, 47, wedi gwyro ar draws y ffordd yn ardal Congleton, Sir Caer ar ôl iddo droi ei sylw at ei system sat-nav.

Aeth ar y palmant a tharo cerddwr 67 oed a gafodd fân anafiadau yn y digwyddiad ar 17 Rhagfyr 2024.

Plediodd Brady yn euog i yrru'n beryglus, ac fe gafodd ddedfryd 24 wythnos o garchar, wedi'i gohirio am 12 mis.

Cafodd ei wahardd rhag gyrru am 18 mis ac fe fydd rhaid cwblhau prawf estynedig cyn cael gyrru eto.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.