Eluned Morgan: 'Dwi'n cario gyda fi doethineb menywod di-ri'

Mae Eluned Morgan wedi'i hethol yn Brif Weinidog Cymru - y fenyw gyntaf i ddal y swydd.

Wrth siarad yn siambr y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Ms Morgan wrth ASau ei bod yn edrych ymlaen at y diwrnod pan fydd "menyw yn dod yn brif weinidog bellach ddim yn rhywbeth anghyffredin ond yn rhan arferol o'n bywyd gwleidyddol Cymreig".

Dywedodd wrth ferched bod "eich potensial yn ddi-ben-draw".

"Nid posibilrwydd yn unig yw llwybr yr arweinyddiaeth bellach - mae’n realiti," meddai.

Ar ôl cyfnod o ymladd o fewn y grŵp Llafur Cymreig, fe wnaeth Ms Morgan addo gwrando ar bobl Cymru.

"Gwrando ar bawb," meddai, "nid dim ond y rhai sy'n gweiddi uchaf neu sydd â'r pŵer mwyaf."