Parcio Llyn Tegid: 'Mae pobl wedi cael digon'
Fe all cerbydau gael eu rhwystro rhag stopio ar ffordd brysur yng Ngwynedd yn sgil pryderon fod parcio diystyriol yn achosi "problemau traffig dybryd i bobl leol".
Mae Cyngor Gwynedd wedi derbyn cwynion gan swyddogion Parc Cenedlaethol Eryri ac aelodau o Gyngor Plwyf Llangywer wedi i gerbydau argyfwng gael eu rhwystro oherwydd nifer y rhai sy'n parcio ar ochr y B4403 rhwng Llanuwchllyn a'r Bala.
Ddydd Llun bydd aelodau o bwyllgor cynllunio'r cyngor sir yn trafod cyflwyno gorchymyn clirffordd, a all weld cerbydau sydd ddim yn cydymffurfio yn cael eu towio.
Byddai'r gorchymyn yn gwahardd gyrwyr rhag stopio eu cerbydau am unrhyw reswm oni bai fod argyfwng - er y bydd dal modd i ddefnyddio'r cilfannau.
Yn ôl Llio Eiry, sy'n byw yn lleol, mae pobl "wedi cael digon".
"Y poen meddwl mwyaf i ni sy'n byw yma, ydi be sy'n digwydd os ydi'r gwasanaethau brys methu cyrraedd mewn argyfwng a bod y ffordd 'di cau," meddai.