Difrod i do cylch meithrin yn Ngheredigion

Dyma oedd yr olygfa yng Ngheinewydd yng Ngheredigion, wrth i wyntoedd cryfion Storm Darragh achosi difrod i adeilad cylch meithrin.

Cafodd to'r adeilad ei chwythu i ffwrdd.

Er bod y rhybudd coch am wynt wedi dod i ben erbyn hyn, mae rhybuddion oren a melyn am wynt a glaw yn parhau mewn grym am rai oriau.

Am 15:00 roedd dros 100,000 o gartrefi heb drydan yng Nghymru.