Gwylio côr byddar yn perfformio yn brofiad 'hyfryd'

Mae "talentau anhygoel" Côr Byddar Cwmbrân yn enghraifft o sut mae dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn gallu ffynnu yn y coleg, yn ôl pennaeth Coleg Gwent.

Mae'r côr yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc sydd â nam ar eu clyw i ddod at ei gilydd i ymarfer a pherfformio.

Cafodd cyngerdd Nadolig y côr ei gynnal ar gampws Casnewydd Coleg Gwent eleni - sefydliad sydd wedi rhoi pwyslais yn ddiweddar ar gefnogi dysgwyr byddar.

Dywedodd y pennaeth, Nicola Gamlin, fod "gweld y talent yn cael ei ddathlu yn rhoi teimlad o falchder mawr i mi o ran yr hyn y mae ein dysgwyr wedi'i gyflawni".

Yn ôl Bethan Hurn, tiwtor yn y coleg, roedd gwylio'r côr yn perfformio yn brofiad gwych.

"Mae gyda ni lot o fyfyrwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol yn y coleg, a dwi'n really ffodus i weithio gyda lot o'r dysgwyr hynny," meddai.

"Roedd Côr Byddar Cwmbrân fewn gyda ni... roedd e'n hyfryd gweld ein dysgwyr ni yn cymryd rhan a gweld ymateb pawb, ac mae gweld pobl yn gwerthfawrogi nhw yn fantastic."