Y Coridor Ansicrwydd: Sut mae datrys problemau Abertawe?

Mae Owain Tudur Jones yn pryderu am ddyfodol Abertawe yn dilyn y penderfyniad i ddiswyddo'r rheolwr Luke Williams.

Daeth cyfnod Williams i ben wedi ychydig dros 12 mis yn y swydd, ac yn dilyn rhediad o golli saith o'u naw gêm ddiwethaf yn y Bencampwriaeth.

Yn ôl Jones, cyn chwaraewr yr Elyrch, does dim atebion syml er mwyn gwella perfformiad y clwb ar ac oddi ar y cae.

"Dwi yn poeni," meddai ar y bennod ddiweddaraf o bodlediad pêl-droed BBC Cymru Y Coridor Ansicrwydd.

"Ond os ydach chi isio sbin bositif, maen nhw dal yn uwch na Caerdydd!"