Y Coridor Ansicrwydd: Pwy sydd wedi rhoi cur pen i OTJ?
Mae yna sawl peth wedi "mynd ar nyrfs" Owain Tudur Jones yn ddiweddar.
Yn gyntaf, cefnogwyr Caerdydd yn gwneud "yr Ayatollah" oedd yn ei chael hi.
Wedyn, agwedd rhai o chwaraewyr Arsenal oedd yn ei wylltio.
Bellach, mae cefnogwyr Aberystwyth wedi cael lle ar ei restr.
Pam? Am fod mor ddigywilydd â gwneud gormod o sŵn wrth wylio'u tîm yn chwarae'r Seintiau Newydd yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG!