'Caneuon Geraint Jarman yn byw am byth'

Mae angladd un o ffigyrau mwyaf dylanwadol canu Cymraeg, Geraint Jarman, wedi cael ei gynnal yng Nghapel y Wenallt yng Nghaerdydd.

Fe ddaeth tua 250 o bobl ynghyd i gofio am Geraint Jarman brynhawn Iau, yn eu plith enwogion o'r byd teledu, cerddoriaeth a barddol Cymraeg.

Un o'r nifer a dalodd deyrnged iddo oedd y cerddor, Cleif Harpwood.

Yn ei deyrnged i Mr Jarman, dywedodd y bydd yn cofio am ei gerddoriaeth a'i ymroddiad i'r byd roc Cymraeg a diolchodd iddo "am symud y byd roc ymlaen".

"Mi oedd themâu Geraint yn wahanol i ni, yn perthyn i'r gymuned ddinesig ac roedd hwnna'n rhywbeth ffres, newydd ar yr un pryd.

"Oedd Geraint yn ddyn ffein iawn, oedd e'n dawel iawn, yn weithgar iawn, yn ymroddgar i bob dim oedd e'n ei wneud.

"Beth sy'n wych yw'r gwaddol sydd ar ei ôl, y catalog eang iawn 'ma o ganeuon.

"Bydd pawb yn cofio am Geraint, bydd y caneuon yna yn byw am byth."