Llyncdwll: 'Dwi'n lwcus bod car fi heb fynd lawr gyda fi ynddo fe'

Mae pobl sy'n byw mewn stad dai ym Merthyr Tudful wedi gorfod gadael eu cartrefi am y tro wedi i lyncdwll agor yno.

Mae stad Nant Morlais ym mhentref Pant - sy'n cynnwys tua 30 o dai - wedi cau dros dro ac mae yna gyngor i bobl osgoi'r ardal.

Dywed Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod wedi cael gwybod am y sefyllfa fore Sul.

Yn ôl arweinydd Cyngor Merthyr Tudful, Brent Carter, dyw hi ddim yn glir pryd y bydd modd i bobl ddychwelyd i'w cartrefi ar hyn o bryd.

Yn ôl Mr Carter, y gred yw bod y llyncdwll wedi agor wedi dau dirlithriad a ddigwyddodd yn sgil Storm Bert.