Fideo merch yn croesawu ei thad ar ddiwedd ras wedi 'ffrwydro' ar-lein
Mae menyw wnaeth ffilmio ei gŵr yn gorffen ras Ultra Eryri, wedi dweud bod yr ymateb i'r fideo wedi "ffrwydro" ar y cyfryngau cymdeithasol - ar ôl i'w merch fach redeg i groesawu ei thad ger y llinell derfyn.
Dywedodd Alys Rees, o Orslas yn Sir Gaerfyrddin, fod y fideo o'i gŵr, Dave, a'i merch, Matilda, bellach wedi denu dros ddwy filiwn o wylwyr.
"O'n i wedi mynd i Ultra Eryri, ras 50 kilometer. O'dd gŵr fi'n cystadlu yn y ras, ac o'n i'n dal merch fi - o'n i'n trio ffilmio Dave yn croesi'r llinell," meddai Alys.
"Ond nes i roi hi lawr am eiliad just i ffilmo fe, a peth nesa o'n i'n gwybod o'dd hi wedi rhedeg lawr y cwrs, achos bo' hi wedi gweld Dad."
Ychwanegodd Alys: "Y peth nesa', ma'r fideo just wedi ffrwydro ar social media, ma' di cal mwy na two million views, pobl yn rhannu fo, yn commento arno fe... totally unexpected fod e wedi mynd mor fawr â hyn."