Biliau ynni ar gynnydd: 'Mae'n poeni rhywun'

Bydd biliau ynni blynyddol aelwydydd yn codi £149 ar gyfartaledd ym mis Hydref.

Fore Gwener fe wnaeth Ofgem - y corff sy'n goruchwylio’r diwydiant ynni - gyhoeddi cap newydd ar brisiau, sef yr uchafswm y gall cyflenwyr godi am bob uned o nwy a thrydan.

O 1 Hydref, bydd y cap ar filiau yn codi 10% a bydd defnyddwyr, ar gyfartaledd, yn talu £1,717 y flwyddyn am nwy a thrydan.

Mae arbenigwyr yn credu fod cynnydd pellach mewn prisiau yn debygol ym mis Ionawr hefyd.

Trigolion Bangor a Jason Edwards o Gymorth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy fu'n trafod y mater gyda BBC Cymru.