Cerdd dant: Y grefft hynafol sy'n unigryw i Gymru

Mae'n unigryw i Gymru, ond faint ydych chi'n ei wybod am gerdd dant?

Yn y bôn, llefaru ar gân yw'r grefft wrth ganu cerdd dant - arddull hynafol sy'n dyddio'n ôl i'r 14eg ganrif.

Fe fydd yr Ŵyl Cerdd Dant yn cael ei chynnal dros y penwythnos, yn Yr Wyddgrug eleni.

Gohebydd BBC Cymru Fyw, Annell Dyfri sy'n esbonio mwy am y grefft.