Watkin am ddysgu cryfderau Grady cyn yr ail brawf

Mae canolwr Cymru Owen Watkin yn dweud ei fod yn anelu at adeiladu partneriaeth lwyddiannus gyda Mason Grady.

Dechreuodd y ddau gyda'i gilydd yn y golled 25-16 yn erbyn Awstralia y penwythnos diwethaf, gyda'r ail brawf yn dod ddydd Sadwrn yma.

Dywedodd Watkin ei fod yn "trio dysgu'n gyflym beth yw cryfderau Mason, a sut ni'n gallu gweithio gyda'n gilydd".

"Mae Mason gyda'r bêl yn beryglus iawn.

"Mae hyfforddwyr Cymru wedi rhoi lot o bwysau arna' i i osod esiampl yn y defence... so just trio cael y bois i ddilyn fi."