Gwylio The Traitors yn brofiad 'bisâr' i Gymraes fuodd yn y gyfres
Rhybudd: Mae'r erthygl hon yn trafod cynnwys dwy bennod gyntaf The Traitors, Cyfres 3
Bu'n rhaid i'r Gymraes sy'n ymddangos yng nghyfres ddiweddaraf The Traitors gadw'r ffaith ei bod yn rhan o'r rhaglen yn gyfrinach am wyth mis.
Dywedodd Elen Wyn fod y ffilmio wedi digwydd yn Inverness yn yr Alban 'nôl ym mis Mai a bod cadw'r gyfrinach am y misoedd diwethaf wedi bod yn "anodd ofnadwy".
Mae'r gyfres yn herio cystadleuwyr, sy'n cael eu galw'n "ffyddloniaid" - neu "faithfuls" - i ddod o hyd i "fradwyr" yn eu plith.
Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd Elen Wyn, sy'n dod yn wreiddiol o Lanfair-yng-Nghornwy ym Môn, mai un o'r prif resymau iddi ymgeisio i fod ar y rhaglen oedd er mwyn "hyrwyddo'r Gymraeg oherwydd ei bod hi'n rhan mor fawr o bwy ydw i ac o fy magwraeth i".
"Oedd 'na lot o bobl wedi synnu bod gan Gymru iaith ei hun, felly dwi reit falch bo' fi wedi gallu dangos i Brydain bod gan y wlad iaith ei hun a'i diwylliant ei hun," meddai Elen, sydd bellach yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd fel cyfieithydd.
Dywedodd ei bod wedi cael lot fawr o gefnogaeth gan bobl yn y castell am y ffaith 'mod i'n siarad yr iaith, yn enwedig gan Kasim, neu Kas.
"O'dd gan lot o bobl ddiddordeb mewn beth oedd y termau oedd yn cael eu defnyddio'n rheolaidd yn y castell, beth oedd y cyfieithiad ar gyfer nhw, fel 'ffyddlon' a 'bradwyr', dyna pam nes i ddeud beth ddudis i pan ges i fy banisho.
"O'dd o'n brofiad diddorol iddyn nhw hefyd dwi'n meddwl."
Wrth ddisgrifio sut brofiad oedd ffilmio'r gyfres, dywedodd fod "diwrnod arferol yn y castell yn cynnwys oriau hir iawn".
"Doeddan ni ddim yn cael gwybod faint o'r gloch oedd hi, doeddan ni ddim yn cael unrhyw gysylltiad efo'r bywyd tu allan ac wedyn doeddan ni ddim yn cysgu yn y castell, oedden ni'n mynd yn ôl i individual lodgings ni."
Gyda'r camerâu yn dilyn y criw trwy gydol eu cyfnod yn y castell, dywedodd ei bod yn "tueddu i anghofio fod 'na gamerâu yn yr ystafelloedd, dyna pam bod hi mor hawdd teimlo'n emosiynol".
Dywedodd nad oedd wedi gwylio'r ail bennod am ei bod wedi byw'r profiad, ond dywedodd fod gwylio'r bennod gyntaf yn "hollol wahanol i sut deimlad a sut brofiad ges i go iawn - yn amlwg mai rhaglen ydi hi ar ddiwedd y dydd".
"Mae o wedi cael ei addasu ond o'dd o'n od iawn oherwydd dwi'n ffrindiau mawr efo'r bobl yma ond eto maen nhw'n cael eu portreadu fel cymeriadau rŵan, mae'n hollol bisâr, mae'n rili rhyfedd."
Dywedodd fod y criw fu'n rhan o'r gyfres wedi gweld ei gilydd sawl gwaith ar ôl y cyfnod ffilmio.
"'Da ni 'di bod yn cwrdd dros y misoedd diwethaf, ma' gynno' ni group chat WhatsApp," meddai.
"'Da ni gyd yn ffrindiau mawr, jyst cariad sydd 'na, does 'na ddim ffraeo na dramas - ar hyn o bryd anyway!"