'Ni ddim yn mynd ar gae i golli,' medd Dewi Lake

Mae'r rhaid i dîm rygbi Cymru godi gêr a gwella eu perfformiad yn eu gêm brawf nesaf yn Awstralia, yn ôl y capten Dewi Lake.

Roedd yn siarad wedi i'r Wallabies eu trechu o 25-16 ddydd Sadwrn yn y gêm brawf gyntaf yn Sydney.

Dywedodd yr hyfforddwr Warren Gatland wedi'r ornest bod y tîm wedi ildio gormod o droseddau, ond bod y garfan yn un sy'n "datblygu".

Ond mae'r canlyniad yn golygu bod Cymru bellach wedi colli am yr wythfed tro yn olynol.

Bydd y ddau dîm yn wynebu eu gilydd eto ddydd Sadwrn nesaf ym Melbourne.