Beth yw Calan Mai?
Roedd 1 Mai yn arfer bod yn ddyddiad pwysig yng nghalendr Cymru.
Calan Mai yw'r enw traddodiadol ar y 1af o Fai - a oedd yn nodi bod yr haf wedi cyrraedd.
Roedd 'na ddigwyddiadau lu yn cael eu cynnal gyda phobl yn addurno'u tai â blodau, yn cynnau coelcerthi, yn canu ac yn dawnsio o gwmpas y fedwen haf.
Mae'r traddodiadau hyn yn dyddio yn ôl i gyfod y Rhufeiniaid ac yn arwydd o obaith fod yr haf wedi cyrraedd.