Sol Bamba: 'O'dd e'n rhoi gwên ar wyneb pawb'

Mae teyrngedau lu wedi’u rhoi i gyn-gapten ac amddiffynnwr Clwb Pêl-droed Caerdydd a Leeds United, Sol Bamba, sydd wedi marw yn 39 oed.

Fe wnaeth oresgyn canser yn 2021, ond bu farw ddydd Sadwrn yn Nhwrci lle bu'n gweithio i glwb Adanaspor.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adar Gleision fod Bamba yn "arwr" ac yn "ŵr bonheddig" a bod ei gyfraniad i'r clwb wedi bod yn amhrisiadwy.

Fore Llun bu Elin Thomas, cefnogwr Caerdydd yn rhoi teyrnged i Bamba ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru.

"Roedd e'n rhoi gwên ar wyneb pawb, yn gwneud i chi deimlo yn sbesial... ac roedd e'n genuine y ffordd o'dd e'n neud e," meddai.