Ennill y Fedal Ddrama yn 'brofiad cwbl anhygoel'

Elin Undeg Williams o Fetws Gwerful Goch, Sir Ddinbych, sydd wedi ennill y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr.

Yn siarad gyda Cymru Fyw wedi'r seremoni, dywedodd y bu'n "brofiad cwbl anhygoel".

Bu'n egluro hefyd am beth mae'r ddrama fuddugol, sef mab yn mynd i weld ei dad - "ffermwr anghofus" - mewn cartref gofal.

Ffred Hayes o Gaerdydd oedd yn ail y gystadleuaeth, a Mali Grigg o Fangor oedd yn drydydd.