'Dim nonsens': Y prifathro sy'n y penawdau am ddisgyblu plant
Pan ddaeth Alun Ebenezer i Ysgol Cil-y-coed yn 2024 aeth ati'n syth i "gryfhau" disgyblaeth.
I ddechrau, gweithredu rheolau gwisg ysgol yn llym ddenodd sylw, ac yn fwy diweddar mae polisi o gadw plant yn yr ysgol ar ddydd Sadwrn fel cosb wedi bod yn y penawdau.
Mae'n credu bod Cymru yn "rhy soft" wrth fynd i'r afael ag ymddygiad gwael ac yn "cuddio" tu ôl i eiriau fel 'llesiant'.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn datblygu cynigion i wella ymddygiad, a byddai uwchgynhadledd arbennig ar y pwnc yn y gwanwyn.