'Profiad gwych' y chwaraewr snwcer ifanc o Fôn

Mae bachgen 15 oed o Ynys Môn wedi cael "profiad gwych" wrth gystadlu mewn digwyddiad snwcer proffesiynol ymhlith rhai o fawrion y gamp.

Mewn digwyddiad yng Nghaerlŷr yr wythnos diwethaf, fe wnaeth Siôn Stuart gystadlu am y tro cyntaf yn y bencampwriaeth 'Snooker Shoot Out'.

Ond er iddo golli 27-12 yn erbyn y Sais Martin O'Donnell yn Stadiwm Mattioli, dywedodd Siôn wrth raglen Dros Frecwast ei fod wedi mwynhau.

"Er o'n i'n nerfus, fyddai'n edrych yn ôl rhyw ddiwrnod a gobeithio gweld y twrnamaint gwych ges i."

Dim ond tair blynedd yn ôl y dechreuodd Siôn chwarae'r gamp, ond mae o bellach yn aelod o dîm snwcer dan 21 ac 16 Cymru, ar ôl ennill chwaraewr gorau Cymru o dan 16 oed.

Yn dilyn ei lwyddiant, flwyddyn nesaf mi fydd yn teithio i Albania a Thwrci i gystadlu.

Gobaith Siôn yw y bydd yn chwarae'n broffesiynol yn y dyfodol.