'Bron yn amhosib prynu tŷ mewn ardal fel Aberdaron'

Mae angen mwy o gyfleoedd i deuluoedd ifanc allu adeiladu tai eu hunain mewn cymunedau sy'n teimlo'r straen yn sgil prisiau cynyddol.

Dyna farn rhai sy'n byw ym Mhen Llŷn yn sgil galwadau i ddiwygio polisïau cynllunio i'w gwneud yn haws i bobl ifanc allu parhau i fyw yn eu cynefinoedd.

Yn ddiweddar fe gymeradwywyd cais amlinellol ar gyfer pum llain hunan adeiladu ar gyfer tai fforddiadwy ar gyrion pentref Aberdaron.

Yn y pen draw fe gafwyd caniatâd er gwaethaf argymhelliad gwreiddiol swyddogion Cyngor Gwynedd y dylid gwrthod y cais oherwydd ei "effaith niweidiol ar y dirwedd leol" a fyddai'n achosi "ymlediad trefol i safle tir glas yng nghefn gwlad agored".

Ond er i'r swyddogion newid eu hargymhelliad wedi i gynghorwyr bleidleisio o blaid datblygu'r safle, galw mae rhai am newid yn y polisïau.

Yn ôl Cyngor Gwynedd, maen nhw'n gweithio ar Gynllun Datblygu Lleol newydd a bydd hyn yn golygu adolygu'r holl bolisïau, gan gynnwys adolygiad o anghenion tai yn lleol.

Ychwanegodd yr awdurdod eu bod yn awyddus i gael gwybod am safleoedd posib allai fod yn addas i’w datblygu ac yn ystyried sefydlu mwy o blotiau hunan-adeiladu dros y blynyddoedd i ddod.

Mae Mirain Llŷn Roberts yn enedigol o Aberdaron ac yn awyddus i barhau i fyw yn y pentref sy'n cael ei adnabod gan rai fel 'pen draw'r byd'.

Ond gyda phrisiau tai'r ardal mor ddrud, mae ei theulu yn parhau i fyw gyda'i rhieni wrth iddynt ystyried y camau nesaf.

"Fyswn i'n dweud fod hi bron yn amhosib prynu tŷ mewn ardal fel Aberdaron y dyddiau yma," meddai.