Y cyn-arlywydd Carter wedi marw yn 100 oed

Mae cyn-arlywydd UDA, Jimmy Carter, wedi marw yn 100 oed.

Yn hannu o dalaith Georgia, roedd yn arlywydd ar ei wlad rhwng 1977 i 1981.

Ef hefyd yw'r cyn-arlywydd sydd wedi byw am y cyfnod hwyaf.

Ond fe barhaodd â'i yrfa wedi ei gyfnod yn y Ty Gwyn, pan enillodd wobr heddwch Nobel.

Bu Carter yn dioddef o broblemau iechyd, gan gynnwys melonoma a ledaenodd i'w afu a'i ymennydd.

Gyda baner yr Unol Daleithiau wedi ei gostwng y tu allan i'r Tŷ Gwyn, mae gwleidyddion ac arweinwyr byd wedi rhoi teyrnged i Jimmy Carter.

Dyma ddarn o ymweliad Carter â Chapel bach Soar y Mynydd.