Merched y Wawr yn dathlu menywod Rhondda Cynon Taf
Yn yr Eisteddfod Genedlaethol, mae Merched y Wawr wedi mynd ati i gofnodi a dathlu cyfraniadau gan fenywod i ardal Rhondda Cynon Taf.
I gyd fynd â'u thema 'Gwlad Newydd y Merched', mae rhanbarth de-ddwyrain Merched y Wawr yn rhoi teyrnged i fenywod lleol ble "mae'r Gymraeg yn bwysig yn eu gwaith".
Yn eu pabell ar faes yr Eisteddfod ym Mharc Ynysangharad, mae arddangosfa o gadachau llestri Cymreig sydd wedi cael ei addurno gan eu haelodau.
Dywedodd Gill Griffiths: "Y gobaith yw bydd pobl yn dod atom ni yn ystod yr wythnos ac yn dweud, 'oeddech chi'n gwybod bod hon a hon yn dod o Rondda Cynon Taf?'
"Ac wedyn byddan ni'n creu rhestr."
Bydd yr arddangosfa yn cael ei rhoi i Amgueddfa Pontypridd ar ddiwedd yr Eisteddfod.