Rheswm actor dros gefnogi apêl
Fe wnaeth Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyhoeddi eu bod wedi codi y £1 miliwn angenrheidiol er mwyn prynu fferm yn Eryri.
Wedi bron i wyth mis o godi arian felly mae Llyndy Isaf yn nwylo'r Ymddiriedolaeth.
Cafodd yr ymgyrch gefnogaeth tri o actorion blaenllaw Cymru, Catherine Zeta Jones, Ioan Gruffudd a Matthew Rhys.
Nia Thomas fu'n holi Matthew Rhys pam ei fod o wedi cefnogi'r ymgyrch.
Doedd ansawdd y lein ddim yn dda.