Ceri Wyn yw Meuryn newydd y Talwrn

Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi mai'r Prifardd Ceri Wyn Jones fydd yn olynu Gerallt Lloyd Owen, Meuryn Talwrn y Beirdd.

Daw'r cyhoeddiad ar ôl i Gerallt Lloyd Owen roi'r gorau i fod yn Feuryn ar y rhaglen wedi 32 mlynedd.

Dywedodd Mr Owen ei bod hi'n bryd i roi cyfle i rywun arall am ei fod wedi bod yn feuryn am hanner ei oes.

Enillodd Ceri Wyn Jones Gadair Eisteddfod Y Bala ym 1997 a chipiodd y Goron yn y Bala yn 2009.

Mr Jones oedd Bardd Plant Cymru yn 2003-2004.

Yn ôl y BBC bydd recordiad cyntaf Mr Jones yn feuryn Talwrn y Beirdd yn digwydd yng Ngwesty'r Emlyn, Tanygroes cyn cael ei ddarlledu ychydig o ddiwrnodau'n ddiweddarach.

Garry Owen a Gwenllian Grigg sy'n holi'r Meuryn newydd.

  • Is-adran
  • Cyhoeddwyd