Pryder am arian i fentrau iaith yn Sir Gaerfyrddin

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ystyried hanneru eu cyfraniad ariannol i fentrau iaith y sir.

Mae hynny'n golygu y gallai Menter Cwm Gwendraeth, Menter Bro Dinefwr a Menter Gorllewin Sir Gâr dderbyn cyfanswm o £50,000 yn llai yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Mae'r cyngor sir yn dweud fod angen chwilio am arbedion o £20 miliwn yn ystod y tair blynedd nesa'.

Ond mi fydd y mentrau iaith yn dal i gael eu harian gan Fwrdd yr Iaith a chronfeydd Ewropeaidd.

Adroddiad Iola Wyn.

  • Is-adran
  • Cyhoeddwyd