Paratoi ar gyfer y Gemau

Mae yna 200 diwrnod cyn y Gemau Olympaidd yn Llundain, a heddiw bydd gweinidogion y llywodraeth yn trafod sut mae sicrhau bod y gemau yn dod a budd parhaol i Brydain.

Mae nifer o weithgareddau wedi eu trefnu i godi ymwybyddiaeth o'r achlysur, gan gynnwys ras i 5,000 o bobl ddiwedd Mawrth.

Un o'r rhai fydd yn wynebu'r her yn y Parc Olympaidd yw Gohebydd BBC Cymru, Iola Wyn.

Dyw hi ddim wedi rhedeg ers dyddiau ysgol ond mae hi bellach wedi dechrau ymarfer ar gyfer y ras fawr.

  • Is-adran
  • Cyhoeddwyd