Ariannu rhanbarthau rygbi Cymru
Mae rhanbarthau rygbi Cymru dan drafodaeth, gydag awgrym y gallai'r arian sy'n cael ei rhoi i'r Dreigiau, y Gleision y Gweilch a'r Scarlets gan Undeb Rygbi Cymru amrywio yn y dyfodol.
Mae adolygiad annibynnol i gyflwr y gamp yng Nghymru yn cael ei gynnal ar hyn o bryd.
Cydnabod eu bod nhw'n gwneud colledion ac yn methu denu digon o gefnogwyr mae'r pedwar rhanbarth.
Dyma adroddiad Alun Thomas ar y Post Cyntaf ar Radio Cymru fore Mawrth.