17 mlynedd i drwsio tyllau ffordd Cymru, yn ôl arolwg
Mae arolwg blynyddol yn awgrymu bod angen 17 mlynedd i drwsio tyllau yn ffyrdd Cymru tra bod angen 11 mlynedd mewn rhannau eraill o Brydain.
Dywed yr adroddiad hefyd fod angen gwario £800 miliwn yn rhagor bob blwyddyn.
Yn ôl y corff gomisiynodd yr astudiaeth, mae camau dros dro fel llenwi tyllau 20 gwaith yn ddrutach na gwaith cynnal a chadw rheolaidd.
Adroddiad Rhian Price.