Cynllun newydd i wella safon darllen
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun newydd ar gyfer gwella safonau ysgrifennu a darllen plant ysgol Cymru dros y pum mlynedd nesa'.
Mae'n cynnwys newid y dull o hyfforddi athrawon newydd a chyflwyno profion darllen gorfodol i blant rhwng pump a 14 oed o fis Mai nesa'.
Yn gynharach yr wythnos hon mi ddywedodd y corff arolygu ysgolion Estyn nad oedd rhai ysgolion yn rhoi digon o bwyslais ar ddysgu sgiliau llythrennedd a rhifedd.
Aled Scourfield fu'n Ysgol Gymraeg Teilo Sant yn Llandeilo i weld y gwaith llythrennedd sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd a chael ymateb i'r cynllun newydd.