30 mlynedd ers bomio'r Syr Galahad
Union 30 mlynedd yn ôl i Fehefin 8 cafodd llong rhyfel y Syr Galahad ei bomio oddi ar Ynysoedd y Falkland.
Roedd 'na aelodau o'r Gwarchodlu Cymreig ar ei bwrdd.
Cafodd 48 o bobl eu lladd yn ystod yr ymosodiad.
I'r rhai oedd yno, does dim dianc rhag profiadau erchyll y diwrnod hwnnw.
Cafodd Merfyn Davies sgwrs gyda Wil Howarth - un o'r ola' i adael y llong.