Llanerchaeron yn dathlu penblwydd arbennig

Mae tŷ Llanerchaeron ger Aberaeron yn dathlu 10 mlynedd ers cael ei agor fel atyniad gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Cafodd y tŷ ei hun ei adeiladu yn y 18fed Ganrif .

Y pensaer oedd John Nash a gafodd yrfa lwyddiannus wedyn yn Llundain gan weithio ar Balas Buckingham a'r Marble Arch.

Fel rhan o'r dathliadau mae Llanerchaeron yn cynnig mynediad am ddim am oes i blentyn sy'n rhannu'r un pen-blwydd.

Cafodd Craig Duggan air gydag Jannice Thomas i glywed mwy am y cynnig a hanes yr hen dŷ.

  • Is-adran
  • Cyhoeddwyd