Cwrw yn rhoi blas o Fryniau Clwyd
Mae'n ymddangos bod bragdai bychain yn ffynnu.
Yng Nghymru, fe agorodd 12 o fradai bach y llynedd.
Un o'r rhai diweddara yw Bragdy Hafod, Gwernymynydd, ger Yr Wyddgrug.
Yn ystod penwythnos agored Bryniau Clwyd fe fydden nhw'n datgelu eu cynnyrch o bedwar cwrw unigryw, sy'n cael ei gynhyrchu trwy ddefnyddio grug, mêl a llys sy'n tyfu ar Fryniau Clwyd.
Merfyn Davies gafodd hanes y fenter gan Rob Williams.