Profiad dynes ifanc o broblemau iechyd meddwl

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Iechyd Meddwl, mae 'na rybudd gan sylfaenydd elusen yn Sir Y Fflint bod unigolion bregus yn lladd eu hunain oherwydd effaith toriadau mewn gwariant cyhoeddus ar wasanaethau.

Mae 'na bryder hefyd bod gormod o fwlch rhwng y gefnogaeth sydd ar gael i bobl ifanc dan 18 oed sydd â phroblemau iechyd meddwl o'i gymharu ar hyn sydd ar gael i oedolion.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae ymyrryd yn gynnar yn allweddol ac mae camau eisoes wedi eu cymryd i wella'r sefyllfa.

Rhian Price fu'n trafod y sefyllfa gydag un o gefnogwyr elusen Kim's Voice, dynes ifanc o'r gogledd sy'n rhannu ei phrofiadau ar yr amod nad ydi ei henw yn cael ei gyhoeddi.

  • Is-adran
  • Cyhoeddwyd