Hwb i'r celfyddydau o ffilm Dylan Thomas
Roedd hi'n ffilm wnaeth ddenu rhai o sêr mwya' Hollywood i Abergwaun.
Roedd hyn yn cynnwys Richard Burton a Peter O'Toole.
Mae cyfarwyddwr y fersiwn ffilm o 'Under Milk Wood' gan Dylan Thomas wedi penderfynu rhoi'r hawlfraint yn rhodd i bobl Cymru.
Fe alla'r celfyddydau yng Nghymru elwa o ddegau o filoedd o bunnau.
Adroddiad Gohebydd Celfyddydau BBC Cymru, Huw Thomas.