'Taclo argyfwng y Gymraeg'

Daeth rhyw dri chant o bobl ynghyd ar y Maes yng Nghaernarfon fore Sadwrn wrth i Gymdeithas yr Iaith lansio maniffesto y maen nhw'n gobeithio all "daclo argyfwng y Gymraeg".

Maen nhw'n galw am gyfarfod ar unwaith â Phrif Weinidog Cymru i drafod y camau nesaf yn dilyn cyhoeddi canlyniadau'r Cyfrifiad.

O Gaernarfon, dyma Dafydd Gwynn.