'Angen marchnata'r iaith'

Mae cyn gadeirydd Bwrdd yr Iaith, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, wedi dweud bod canlyniadau'r cyfrifiad ar yr iaith Gymraeg yn ddim mwy na "chanrannau moel".

Roedd y ffigurau'n dangos fod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng dros y degawd diwethaf.

Ar raglen Sunday Politics BBC Cymru dywedodd bod 'na ffyrdd llawer mwy gwerthfawr o werthuso agweddau pobl at yr iaith a bod angen canolbwyntio mwy ar hyrwyddo dwyieithrwydd.

  • Is-adran
  • Cyhoeddwyd