Dewi Llwyd yn gadael Newyddion ar S4C

Mae Dewi Llwyd wedi cyflwyno rhaglen Newyddion gan y BBC ar S4C am y tro olaf.

Fe fydd yn symud i fyd radio i gyflwyno'r Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru yn y flwyddyn newydd.

Bu'n cyflwyno prif raglen newyddion Cymru ers degawdau, ac wrth adael nos Fercher, fe ddiolchodd am y fraint o gael darlledu'n nosweithiol yn y Gymraeg.

Diolchodd hefyd i'w gydweithwyr "am wneud y cyfan yn bosib".

Wrth iddo adael, fe gafodd y gwylwyr gyfle i ail-fyw rhai o'i uchafbwyntiau yn darlledu'r newyddion.

  • Is-adran
  • Cyhoeddwyd