Digon o halen i daclo'r tywydd oer

Ar ôl cyfnod cymharol fwyn yn ddiweddar, mae disgwyl i'r tymheredd blymio dros y diwrnodau nesaf.

Mi fydd hi'n rhewi mewn sawl rhan o Gymru nos Fercher ac mae'n bosib y cawn ni eira dros y penwythnos.

Ond wrth baratoi ar gyfer gaeaf oer, mi wnaeth cynghorau sir Cymru sicrhau bod 'na fwy o halen ar gael i drin y ffyrdd eleni nag erioed o'r blaen.

Rhodri Llywelyn aeth allan gydag un o loriau graeanu Cyngor Sir Caerfyrddin.

  • Is-adran
  • Cyhoeddwyd