Y Gymraeg yn Nyffryn Aman
Does 'na ddim un ward etholiadol yn Sir Gaerfyrddin yma bellach lle mae dros 70% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg. Roedd pum ardal felly yn ôl cyfrifiad 2001. Yn Rhydaman, mi oedd yna ostyngiad o 12.5% yn y nifer o siaradwyr Cymraeg. Mae'n gohebydd ni Aled Scourfield wedi bod yn pwyso a mesur y sefyllfa yma yn Nyffryn Aman.