Cerddoriaeth Eos nôl ar Radio Cymru - dros dro
Ar ôl chwe wythnos mae gan Radio Cymru yr hawl i chwarae degau o filoedd o ganeuon gan aelodau o asiantaeth EOS dros dro.
Fe fydd y trafodaethau rhwng y Gorfforaeth a'r Asiantaeth yn parhau er mwyn dod at gytundeb parhaol, gyda'r bwriad o ddefnyddio cymodwr annibynnol.
Ond sut effaith mae hyn wedi ei gael ar yr orsaf ac ar gerddoriaeth Gymraeg?
Kate Crockett gafodd sgwrs gyda'r sylwebydd ar y cyfryngau Jon Gower.