'Tanseilio hyder cwsmeriaid mewn cynnyrch'

Mae 'na gwestiynau yn cael eu gofyn ar ôl i gig ceffyl gael ei ddarganfod mewn safle prosesu cig ger Aberystwyth.

Mae'r perchennog, Dafydd Raw-Rees yn mynnu fod ganddo drwydded i brosesu cig coch.

Honna'r Asiantaeth Safonau Bwyd fod y cig wedi dod o ladd-dy yn Sir Gorllewin Efrog ac mae Mr Raw-Rees yn gwadu fod ganddo gysylltiad gyda'r lladd-dy yn Lloegr.

Fe wnaeth yr Asiantaeth atal y gwaith rhag parhau yn y ffatri yn Llandre ac mewn lladd-dy yn Todmorden ddydd Mawrth.

Mewn cyfweliad gyda'r BBC mae gweinidog amgylchedd Llywodraeth Prydain Owen Patteson wedi dweud ei bod hi'n annerbyniol fod cwmnïau yn twyllo'r cyhoedd yn y fath fodd.

Gwrthododd Llywodraeth Cymru a gwneud cyfweliad.

Ond mewn datganiad maen nhw wedi dweud ei bod hi'n hanfodol fod pobl yn gallu ymddried yn y diwydiant bwyd.

Kate Crockett fu'n cael ymateb Dai Davies, Cadeirydd Hybu Cig Cymru.