Cyfweliad arbennig â phechennog Farmbox Meats

Wrth i'r Asiantaeth Safonau Bwyd barhau i archwilio ffatri dorri cig ger Aberystwyth mae BBC Cymru wedi holi'r perchennog.

Nos Fawrth dywedodd yr asiantaeth eu bod yn atal cynhyrchu am y tro yn Farmbox Meats, Llandre, wrth iddyn nhw ymchwilio i honiadau bod cynnyrch cig wedi ei gamlabelu.

Ond mae'r rheolwyr wedi mynnu nad ydyn nhw wedi gwneud unrhywbeth o'i le a bod y gwaith yn parhau.

Mae'r asiantaeth wedi dweud bod cynhyrchu wedi ei atal mewn lladd-dy yn Sir Efrog - y maen nhw'n credu oedd yn gyfrifol am gyflenwi Farmbox Meats - wrth i'w hymchwiliadau barhau.

Sian Lloyd gafodd ymateb perchennog Farmbox Meats, Dafydd Raw-Rees.

  • Is-adran
  • Cyhoeddwyd